Yr Ysgol Sul

Ceir dau ddosbarth Ysgol Sul yn Salem, un dosbarth ar gyfer plant hyd at saith oed a’r llall ar gyfer y plant dros saith oed. Daw y plant i gyd i’r capel ar gyfer rhan agoriadol yr Oedfa. Wedi emyn a darlleniad, ceir gair gan y pregethwr i’r plant. Yna, fe aiff un o ddisgyblion yr Ysgol Sul ymlaen i ledio’r emyn. Yn ystod yr emyn  mae’r plant yn ymadael â’r Oedfa ac yn mynd i’r Festri ar gyfer eu gwers. Rhai blynyddoedd yn ôl gosodwyd carped clyd ar lawr y festri a phrynwyd dodrefn ac offer addas i greu amgylchfyd deniadol a dymunol ar gyfer y plant.

Mae’r athrawesau yn defnyddio’r gyfres “Golau ar y Gair” i gyflwyno gwersi i’r plant  ac mae’n braf gweld y festri ar ei newydd wedd a’r plant wrth eu bodd yn eu cartref cysurus.

Mawr yw ein dyled i athrawesau ymroddgar yr Ysgol Sul sef Mrs Rhiell Elidir, Mrs Helen Parry a’r arolygydd, Mrs Eirian Davenport am eu llafur di-flino.

Ysgol Sul

 

 

 

 

 

Rhai o blant yr Ysgol Sul

Swydd Ddisgrifiadau

Y mae Cymal 5/Atodiad 2 yn y ddogfen Er Mwyn Ein Plantyn datgan:

 Dylid rhoi gwybod i weithwyr gwirfoddol yn ysgrifenedig pa beth yw eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau: dros bwy y maent yn gyfrifol ac i bwy y maent yn atebol.”

Mewn ymdrech i gydymffurfio â’r gofyn hwn `rydym wedi llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y swyddi isod. Gallwch agor y dogfennau (Microsoft Word) trwy glicio ar y swyddi. Y mae croeso i chi eu haddasu at bwrpas eich eglwys, os ydych yn gweld gwerth iddynt.

Swydd Ddisgrifiad Athrawes Ysgol Sul

Swydd Ddisgrifiad Cynorthwy-ydd Ysgol Sul

Swydd Ddisgrifiad Cynorthwy-ydd Cyfarfod y Plant