Nos Fercher, Hydref 7fed, bydd y Clwb Ieuenctid Cristnogol (Clwb CIC ) yn cychwyn am 7 p.m. yn y Festri dan ofal Gwenno Teifi.
Mae croeso mawr i blant a phobl ifanc blwyddyn 6 i fyny.
Nos Fercher, Hydref 7fed, bydd y Clwb Ieuenctid Cristnogol (Clwb CIC ) yn cychwyn am 7 p.m. yn y Festri dan ofal Gwenno Teifi.
Mae croeso mawr i blant a phobl ifanc blwyddyn 6 i fyny.
Bydd y Sul cyntaf o Hydref yn Sul ‘Croeso’n ôl’ yn Salem pryd y byddwn yn estyn cyfle a chroeso cynnes i nifer o’n haelodau sydd, am amryfal resymau wedi peidio mynychu’r gwasanaethau ac yn ei chael yn anodd ail-gychwyn, i ymuno â ni yn ein haddoliad.
Dywed y Barchedig Megan Williams – “Ga’ i annog y rhai ohonoch sy’n adnabod unrhyw un, boed aelod neu beidio, fyddai’n hoffi dod i’r oedfa, i estyn gwahoddiad personol iddynt. Bydd cyfle am baned a sgwrs yn y Festri ar derfyn yr oedfa.”