Wyddoch chi bod pob Kit Kat mawr a werthir bellach yn cynnwys siocled Masnach Deg o Côte d’Ivoire. Mae hyn yn newyddion da iawn i’r mudiad Masnach Deg oherwydd Kit Kat yw y bar siocled mwyaf poblogaidd yng ngwledydd Prydain. Y mae cwmni Nestle, gwneuthurwyr Kit Kat, wedi ymrwymo i fuddsoddi £65 milliwn yn Côte d’Ivoire dros y deng mlynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r problemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd yn wynebu ffermwyr cocoa yn y wlad honno. Golyga hefyd y gallwch chi fwynhau bar o Kit Kat gyda chydwybod glir! Mm, tybed?
Os hoffech ddarllen am gynlluniau Nestle yn Côte d’Ivoire cliciwch ar y ddolen isod.