Llongyfarch Mr Gerallt Hughes

Yn ystod Sasiwn y Gogledd a gynhaliwyd yn Lerpwl ganol mis Ebrill, llongyfarchwyd nifer o weinidogion a blaenoriaid a oedd wedi cyflawni naill ai deugain, hanner can neu drigain mlynedd o wasanaeth i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ymhlith y rhai a oedd wedi cyflawni deugain mlynedd o wasanaeth fel blaenor `roedd Mr Gerallt Hughes. Yn wir, Gerallt gafodd y fraint o ddweud gair ar ran y rhai a oedd yn cael eu hanrhydeddu ac chafwyd anerchiad addas iawn ganddo. Yn llun gwelwn Mrs Dilys Hughes, Cadeirydd Cyfarfod y Blaenoriaid a llywydd y ddefod yn llongyfarch Gerallt.

 

Mae'r sylwadau wedi cau.

%d bloggers like this: