Cafwyd gwasanaethau bendithiol iawn yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr Oedfa Naws y Nadolig ar yr 16eg o Ragfyr ac yn Oedfa y Plant a’r Bobl Ifanc ar y 23ain. Yn ystod yr oedfa ar y 23ain cafwyd anerchiad amserol a phwrpasol iawn gan y Parchedig Patrick Slattery (gweler isod) a oedd wedi mynd i ysbryd yr Ŵyl ym mhob ffordd!
Diolch i Mrs Helen Parry am baratoi Torch Adfent hyfryd eto eleni, ynghyd ag addurn swmpus iawn ar gyfer y Set Fawr.