Amdanom ni

EBCGweNewyddBach Un o eglwysi cyfundeb y Presbyteriaid yng Nghymru yw Capel Salem. Perthyn iddi oddeutu 125 o aelodau a rhyw 15 o blant a phobl ifanc.

 

Yr Adeilad a’r Gynulleidfa

Llun capel

Mae’n adeilad hardd – a siap hanner cylch y tu mewn yn peri nad yw unrhyw ran o’r gynulleidfa yn bell iawn o’r pulpud. Mae rhyw agosatrwydd yn ei ffurf – ac mae hefyd ymdeimlad o agosatrwydd ymysg y gynulleidfa sy’n cyfarfod yma i addoli – gwir ymdeimlad o Deulu Duw’n dod ynghyd yn y cartref ysbrydol. Ein gobaith yw fod pawb sy’n troi i mewn atom yn teimlo fod yma aelwyd gynnes a gofalgar a chroeso cynnes i bawb i gyd-addoli .

Hanes Diweddar

Am dair blynedd ar hugain – o 1975 hyd at ei farw cynamserol ym 1998 – bu Salem dan weinidogaeth y diweddar Barchedig Dewi Wyn Williams. Yn dilyn ei farwolaeth ddisyfyd penderfynodd ei weddw Megan, gyda chefnogaeth dwymgalon yr eglwys, gymhwyso’i hun i gario’r gwaith ymlaen ac fe’i sefydlwyd yn weinidog yn Salem ar yr 20fed o Fedi 2000

Yn Nachwedd, 2000, cymerwyd y cam arloesol o sefydlu gwefan ar gyfer yr aelodau hynny o’r eglwys a oedd â chysylltiad â’r we,  un o’r eglwysi cyntaf yng Nghymru i fentro i’r oes dechnolegol. Gobeithio y bydd y wefan hon (olynydd y wefan wreiddiol), yn fodd i aelodau, cyn aelodau a charedigion Salem ledled y wlad a’r byd gadw mewn cysylltiad â gwahanol weithgareddau’r eglwys.

Beth am droi i mewn atom?

Byddai’n hyfryd petae eich ymweliad â’n safle yn codi awydd arnoch chwithau i ymweld â ni  ac i ymuno yn ein haddoliad. Mae croeso cynnes ar aelwyd Salem i bawb sy’n caru  Iesu Grist.

GWASANAETHAU’R SUL

Oedfa’r Bore: 10a.m.  (Bydd y plant yn mynd i’r Ysgol Sul yn ystod y Gwasanaeth Dechreuol)

Oedfa’r Hwyr: 5.30p.m.

(Gweler y Daflen Fisol am fanylion yr Oedfaon)

Seiat bob nos Lun am 7p.m. o Hydref i Ebrill a’r Gymdeithas Lenyddol ar Nos Iau am 7p.m. yn ystod y Tymor. (Gweler y Daflen Fisol am fanylion pellach.)

Mae'r sylwadau wedi cau.

%d bloggers like this: