Cliciwch ar y ddolen i weld taflen mis Mehefin
Nadolig 2022
Rhagfyr 29, 2022Diolch i Mrs Helen Parry am ddarparu torch Adfent ar ein cyfer eto eleni – roedd yn harddu y Set Fawr ac yn creu awyrgylch hyfryd
Gwasanaethau Zoom
Chwefror 13, 2021Gwasanaethau’r Nadolig 2018
Rhagfyr 30, 2018Cafwyd gwasanaethau bendithiol iawn yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr Oedfa Naws y Nadolig ar yr 16eg o Ragfyr ac yn Oedfa y Plant a’r Bobl Ifanc ar y 23ain. Yn ystod yr oedfa ar y 23ain cafwyd anerchiad amserol a phwrpasol iawn gan y Parchedig Patrick Slattery (gweler isod) a oedd wedi mynd i ysbryd yr Ŵyl ym mhob ffordd!
Diolch i Mrs Helen Parry am baratoi Torch Adfent hyfryd eto eleni, ynghyd ag addurn swmpus iawn ar gyfer y Set Fawr.
Llongyfarch Mr Gerallt Hughes
Mai 1, 2018Yn ystod Sasiwn y Gogledd a gynhaliwyd yn Lerpwl ganol mis Ebrill, llongyfarchwyd nifer o weinidogion a blaenoriaid a oedd wedi cyflawni naill ai deugain, hanner can neu drigain mlynedd o wasanaeth i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ymhlith y rhai a oedd wedi cyflawni deugain mlynedd o wasanaeth fel blaenor `roedd Mr Gerallt Hughes. Yn wir, Gerallt gafodd y fraint o ddweud gair ar ran y rhai a oedd yn cael eu hanrhydeddu ac chafwyd anerchiad addas iawn ganddo. Yn llun gwelwn Mrs Dilys Hughes, Cadeirydd Cyfarfod y Blaenoriaid a llywydd y ddefod yn llongyfarch Gerallt.
Ordeinio Anna Jane
Mai 1, 2018
Yng Nghymdeithasfa’r Gogledd a gynhaliwyd yn Lerpwl, dydd Mawrth, Ebrill 17eg a dydd Mercher, Ebrill y 18fed fe ordeiniwyd Anna Jane Evans (Cymorth Cristnogol) yn weinidog. Ar y chwith i Anna Jane yn y llun y mae’r Parchedig Eleri Edwards a fu’n ymddiddan â hi yn ystod yr oedfa cyn yr oedfa ordeinio. Dymunwn yn dda i Anna Jane a fydd, gyda llaw, yn dod i Gapel Judah, nos Sul nesaf, sef Mai 6ed, i gymryd rhan yn ein Hoedfa Cymorth Cristnogol flynyddol.
Adnodd gwych i gapeli sydd heb organydd/cyfeilydd
Rhagfyr 24, 2017Dyma i chi ddolen aiff â chi i safle ble y gellir lawrlwytho y rhan fwyaf o’r tonau yng Nghaneuon Ffydd er mwyn eu defnyddio mewn oedfaon. Mae llawer ohonynt ar gael ar ffurf cyfeiliant organ, piano neu fand.
http://smallchurchmusic.weebly.com/welsh-caneuon-ffydd-2001.html
Pan fyddwch yn lawrlwytho tôn bydd yn dod ar ffurf ffeil wedi ei zipio ond mae meddalwedd i’w hagor ar gael yn rhad ac am ddim
Fideo Dathlu 50 mlwyddiant Gwasanaeth Ieuenctid EBC
Rhagfyr 24, 2017I wylio’r fideo cliclwch ar y ddolen isod
Apêl Corwynt Cariad
Ebrill 1, 2017Gellir cefnofi apêl Corwynt Cariad Capel Salem Dolgellau trwy gyfrwng y dudalen Just Giving isod
Ymddeoliad ein gweinidog
Gorffennaf 3, 2011Nos Lun, Mehefin 27ain daeth cynulleidfa luosog iawn ynghyd yn y capel ar gyfer Gwasanaeth Gollwng y Barchedig Megan Williams. Braf oedd gweld cymaint o aelodau, cyfeillion a chydweithwyr ein hannwyl weinidog wedi dod ynghyd o bell ac agos i gydnabod ei chyfraniad i Eglwys ein Harglwydd, Iesu Grist.
Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Gerallt Hughes, ag ef a’n harweiniodd mewn gweddi agoriadol. Yna, wedi canu emyn rhif 126, daeth Mr Terry Lloyd ymlaen i ddarllen darn o’r ysgrythur o ddewis ein gweinidog, sef llythyr Paul at y Philipiaid, pennod 2, adnodau 1-16. Yn dilyn y darlleniad fe offrymwyd gweddi dros ddyfodol yr eglwys yn Salem ac yn ehangach gan Mr John Cadwaladr. Mr Henry Edwards ddaeth ymlaen i ledio’r ail emyn, sef rhif 181. Y mae plant yr eglwys wedi chwarae rhan allweddol yng ngweinidogaeth y Barchedig Megan Williams ac fe adlewyrchwyd hynny yn y gwasanaeth hwn pan ddaeth parti ohonynt i’r Set Fawr i roi datganiad llawn asbri o’r emyn “Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad”. Mynegodd Mrs Helen Jones werthfawrogiad swyddogion yr Ysgol Sul a rhieni’r plant o gyfraniad y Barchedig Megan Williams i’r Ysgol Sul ac fe gyflwynwyd tusw hardd o flodau iddi gan Gwenno Meirion a Catrin James ar ran y plant a’r bobl ifanc. Rhodd arall a dderbyniodd gan yr Ysgol Sul oedd cyfres o benillion o waith Mr. Rheinallt Griffith, mewn ffrâm hyfryd. Ysgrifenwyd y penillion mewn llawysgrifen gain gan Mrs Helen Parry. Yn dilyn hyn cafwyd anerchiad gan Mr Dwyryd Williams, ein hysgrifennydd, ar ran yr eglwys. Yn ei anerchiad soniodd am ddau gyfnod a oedd yn gyffredin i lawer o aelodau Salem, sef y cyfnod dan ofalaeth y Parchedig Dewi Wyn Williams ac yna y cyfnod dan ofalaeth y Barchedig Megan Williams. Soniodd am rai o’i atgofion o’r ddau gyfnod a phwysleisiodd mor ffodus y bum yn Salem o gael dau weinidog mor ardderchog, a hynny dros gyfnod o 36 mlynedd. Dilynwyd ef gan Mr Geraint Lloyd Jones a Mr Edward Owen ar ran Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd, gyda’r ddau ohonynt yn eu tro yn canmol cyfraniad ein gweinidog a’i pharodrwydd i gynorthwyo a chefnogi eglwysi bach yng nghefn gwlad Meirionnydd. Yna, daeth y Barchedig Gwenda Richards, Caernarfon, un o ffrindiau pennaf ein gweinidog, ymlaen i offrymu gweddi dros ein gweinidog. Yn ein hymateb, mynegodd y Barchedig Megan Williams ei gwerthfawrogiad o’r cariad a’r gefnogaeth a dderbyniodd hi a’i diweddar briod, y Parchedig Dewi Wyn Williams gan aelodau Salem dros gyfnod maith o flynyddoedd. Pwysleisiodd neges sydd yn gyfarwydd i aelodau’r eglwys erbyn hyn, sef ei chrêd yn yr egwyddor o weinidogaeth yr holl saint. Mr Sulwyn Jones gafodd y fraint o ddod â’r gwasanaeth i ben trwy ledio emyn 259 ac yna cyhoeddodd y fendith.
Wedi’r gwasanaeth aeth y gynulleidfa drwodd i’r Festri ble roedd bwffe gwerth chweil yn eu disgwyl. Diolch i Mrs Dorothy Hughes a Mrs Ann Roberts am gydlynnu’r trefniadau ac i bawb a gyfrannodd tuag at yr arlwy.
Yn sgîl ei hymddeoliad fe fydd y Barchedig Megan Williams yn dychwelyd i’w rôl blaenorol, sef aelod o’r tîm blaenoriaid.
Drama’r Pasg wedi ei hanimeiddio!
Mai 2, 2011Yn dilyn llwyddiant ei ffilm animeiddiedig gyntaf, sef hanes Y Geni, y mae Owain Meirion, un o aelodau Ysgol Sul Salem, wedi cynhyrchu ail ffilm animeiddedig, y tro hwn yn adrodd hanes Y Pasg. Y mae’n hirach ffilm na’r gyntaf a bu’n rhaid i Owain dynnu dros ddwy fil o luniau wrth ei rhoi at ei gilydd. Y mae’n gampwaith o ffilm a hoffem eich annog i ymweld â safle You Tube er mwyn ei gwylio – gallwch wneud hynny trwy glicio ar y ddolen idod:
KitKat Masnach Deg
Chwefror 12, 2011Wyddoch chi bod pob Kit Kat mawr a werthir bellach yn cynnwys siocled Masnach Deg o Côte d’Ivoire. Mae hyn yn newyddion da iawn i’r mudiad Masnach Deg oherwydd Kit Kat yw y bar siocled mwyaf poblogaidd yng ngwledydd Prydain. Y mae cwmni Nestle, gwneuthurwyr Kit Kat, wedi ymrwymo i fuddsoddi £65 milliwn yn Côte d’Ivoire dros y deng mlynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r problemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd yn wynebu ffermwyr cocoa yn y wlad honno. Golyga hefyd y gallwch chi fwynhau bar o Kit Kat gyda chydwybod glir! Mm, tybed?
Os hoffech ddarllen am gynlluniau Nestle yn Côte d’Ivoire cliciwch ar y ddolen isod.
Gwefan Salem wedi ei harchifo
Chwefror 7, 2011Nifer o flynyddoedd yn ôl rhoddwyd ganiatad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru archifo gwefan Salem. O ganlyniad, fe aeth y Llyfrgell ati o dro i dro i greu ciplun o’r wefan. Os hoffech weld ffrwyth eu llafur cliciwch ar y ddolen isod.
http://www.webarchive.org.uk/ukwa/target/103811/source/subject
Un o fy hoff dudalennau oddi mewn i’r hen wefan oedd y dudalen “Caneuon Ffydd” – da oedd gweld ei bod yn dal yn “fyw” – cliciwch isod.
Stori’r Geni wedi ei hanimeiddio!
Rhagfyr 28, 2010Bu disgyblion Ysgol Sul Salem yn brysur yn ddiweddar yn paratoi ffilm wedi ei hanimeiddio o ddrama’r geni. Os hoffech weld ffrwyth eu llafur clicwch ar y ddolen isod.
Pererindod mis Medi – Ymweld â Bro Hedd Wyn
Medi 1, 2010Bwriedir ymweld ag ardal Trawsfynydd dydd Sul, Medi 19eg. Am fanylion pellach gweler taflen mis Medi. Os ydych am ddod ar y Bererindod rhowch wybod i’r ysgrifennydd, sef Dwyryd Williams (rhif ffôn 01341 423 494) cyn dydd Sul, Medi 12fed.