Cynorthwyo Plant Amddifad Shillong

Mehefin 29, 2010

"Mae'n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol"

Y bwrdd “Moes a Phryn”

Prysurdeb y bore coffi

 

 

 

 

 

 

 

 Yn ddiweddar bu plant Ysgol Sul Salem yn paratoi ar gyfer ac yn cynnal bore coffi a bwrdd “Moes a Phryn” er mwyn codi arian tuag at gartrefi plant amddifad yn Shillong ym Mryniau Khasia,  India.  Ychydig fisoedd yn ôl bu’r Barchedig Gwenda Richards yn Salem yn pregethu ac yn ystod ei sgwrs i’r plant soniodd am ei hymweliad â Bryniau Khasia yn ei rôl fel Llywydd y Gymanfa Gyffredinol. Fe ysbrydolodd ei geiriau y plant i fynd ati i godi arian i gynorthwyo plant bach amddifad yn y rhan honno o India ble mae’r Eglwys Brebyteraidd yn arbennig o gry`. Llwyddodd y plant i godi swm anrhydeddus iawn yn wir, sef £220. Yn ystod yr hydref  bydd y Barchedig Gwenda Richards a’i gŵr, y Parchedig Ddr. Elwyn Richards yn ymweld â Chymdeithas Ddiwylliannol Salem er mwyn dweud hanes eu taith yn fwy manwl. Mae’n siwr y bydd eu hymweliad yn rhoi cyfle i godi rhagor o arian tuag at yr achos teilwng hwn.


Casglu £600 tuag at Apêl Haiti

Ionawr 27, 2010

 

Bydd Mr John Cadwaladr, trysorydd Capel Salem, yn anfon siec am £600 i Apêl Haiti yn y dyfodol agos. Casglwyd y swm anrhydeddus hwn trwy gyfrwng casgliad rhydd yn y capel yn ystod oedfaon y ddau Sul diwethaf.

Os hoffech chi gyfrannu tuag at yr achos teilwng hwn gallwch wneud hynny trwy glicio ar un o’r dolenni isod.

http://www.christianaid.org.uk/emergencies/current/haiti-earthquake-appeal/index.aspx

http://www.dec.org.uk/donate_now/


Gwefan newydd “Crefydd a Chred”

Ionawr 24, 2010

Trowch i mewn – i wefan newydd Crefydd y BBC. Erthyglau, trafodaeth a straeon am bynciau o bwys.

Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i dudalen gartref y wefan

http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/crefydd/

Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i’r dudalen “Gwefannau eraill” sydd yn cynnwys bob math o wefannau crefyddol eraill o ddiddordeb.

http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/crefydd-straeon/tudalen/cysylltiadau.shtml


Gwasanaeth Nadolig y Plant

Rhagfyr 20, 2009

Thema Gwasanaeth y Plant y Nadolig hwn oedd “Nadolig y Gwledydd” ond yn anffodus fe darfwyd ar y trefniadau gan y rhew a’r eira a rwystrodd nifer o blant ac oedolion rhag cyrraedd yr oedfa. Serch hynny, fe benderfynwyd gwneud y gorau o’r gwaethaf a rhaid canmol y plant, swyddogion yr Ysgol Sul a’r mamau am ddyfalbarhau ac am lenwi’r bylchau. Trwy gyfrwng sgets, cân a chyflwyniad PowerPoint clywsom sut y mae plant gwahanol wledydd yn Ewrop yn dathlu Gŵyl y Geni.

I weld rhagor o  luniau cliciwch yma

(I weld y lluniau yn fwy cliciwch arnynt)


Cyflwyno bwrdd hardd er côf am gyfaill annwyl

Rhagfyr 2, 2009

Mrs Eira Williams a’i merch Rhian yn cyflwyno bwrdd derw hardd i eglwys Salem trwy law y Barchedig Megan Williams, er côf am ein cyfaill annwyl, y diweddar Mr Alun Williams. Ar y plac ar flaen y bwrdd gwelir geiriau o waith Mr Dafydd Wyn Jones, Cwmlline:

“I’w weinidog cefnogwr – I’w Salem

Y selog addolwr”


Cyfarfod agoriadol CIC (Clwb Ieuenctid Cristnogol)

Medi 29, 2009

Nos Fercher, Hydref 7fed, bydd y Clwb Ieuenctid Cristnogol (Clwb CIC ) yn cychwyn am 7 p.m. yn y Festri dan ofal Gwenno Teifi. 

Mae croeso mawr i blant a phobl ifanc blwyddyn 6 i fyny.


Dydd Sul “Croeso’n Ôl – Dewch fel da chi!

Medi 29, 2009

Bydd y Sul cyntaf o Hydref yn Sul ‘Croeso’n ôl’ yn Salem pryd y byddwn yn estyn cyfle a chroeso cynnes i nifer o’n haelodau sydd, am amryfal resymau wedi peidio mynychu’r gwasanaethau ac yn ei chael yn anodd ail-gychwyn, i ymuno â ni yn ein haddoliad.

Dywed y Barchedig Megan Williams – “Ga’ i  annog  y rhai ohonoch sy’n adnabod unrhyw un, boed aelod neu beidio, fyddai’n hoffi dod i’r oedfa,  i estyn gwahoddiad personol iddynt. Bydd cyfle am baned a sgwrs yn y Festri ar derfyn yr oedfa.”


Pererindod 2009

Mehefin 29, 2009

Prynhawn dydd Sul, Gorffennaf 5ed, aeth tua 30 o aelodau Salem a chyfeillion eraill ar y Bererindod flynyddol. Eleni aethpwyd i gyfeiriad Dyffryn Conwy, gan ymweld yn gyntaf â Thŷ Mawr, Wybrnant, ger Benmachno, ble y magwyd yr Esgob William Morgan. Yno cafwyd crynodeb o hanes bywyd William Morgan gan warden Tŷ Mawr, sef Wil Edwards.

Yna, aethpwyd ymlaen i gapel Penmachno ble yr ymunwyd â’r gynulleidfa yn yr oedfa hwyrol dan arweinaid y Parchedig Gerwyn Roberts. Diolch am y croeso ac i’r chwiorydd am ddarparu lluniaeth ysgafn a phaned (ar fyr rybudd!).

Cyn dychwelyd i Ddolgellau cafwyd swper blasus yng Ngwesty Glanaber, Betws y Coed – diolch i staff y gwesty am eu cydweithrediad parod. Diolch hefyd i Dwyryd Williams am wneud y trefniadau ar gyfer y daith.

Rhai o'r Pererinion ar y Bont ger Tŷ Mawr, Wybrnant

Rhai o'r Pererinion ar y Bont ger Tŷ Mawr, Wybrnant


Cymanfa Undebol Dolgellau a’r Cylch 2009

Mehefin 28, 2009

Dydd Sul, Mehefin 14eg cynhaliwyd Cymanfa flynyddol eglwysi anghydffurfiol Dolgellau a’r Cylch, dan arweinyddiaeth y Bnr. Trebor Lloyd Evans, Llangwm.  Y mae Trebor yn gyfarwydd iawn i drigolion Dolgellau gan iddo ef a’i deulu dreulio blynyddoedd lawer yn byw yma yn ein mysg.  Bu’n flaenor ac yn godwr-canu yn Salem am nifer o flynyddol ac felly roedd yn adnabod ei gynulleidfa yn bur dda.

Roedd Cymanfa’r Plant, a gynhaliwyd yn ystod y prynhawn,  yn llwyddiannus dros ben – cafwyd canu arbennig o dda gan y plant dan faton Trebor. Diolch i Iwan Wyn Parri am eu hyfforddi ac i’r cyfeilyddion a fu’n ei gynorthwyo. Yn ystod y cyfarfod cafwyd datganiad lleisiol hyfryd iawn gan Rhys Owen, Bontddu. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Dwyryd Williams.

Cafwyd Cymanfa ganmoladwy gyda’r hwyr hefyd, er mae’n rhaid cydnabod mai prinhau’r mae’r cantorion yn raddol, yn enwedig felly y dynion. Yn ystod y cyfarfod cafwyd datganiad lleisiol safonol iawn gan Huw Ynyr Evans, Rhydymain. Llywyddwyd Cymanfa’r Oedolion gan Ray Owen, Talybont, Ardudwy.

Cymanfa'r Plant

Cymanfa'r Plant


Gwasanaeth o Ddiolch

Mehefin 7, 2009

Daeth cynulleidfa dda ynghyd yn Salem heno (nos Sul, Mehefin 7fed)  ar gyfer gwasanaeth o ddiolch am ganlyniadau Apêl Eglwys Brebyteraidd Cymru 2007 at waith Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone. Yn ystod yr oedfa cafwyd cyfle i wylio’r DVD Sierra Leone – Dechrau Newydd a phrofiad hyfryd a fwynhawyd gan yr holl gynulleidfa oedd gweld y gwahaniaeth y mae ein cyfraniadau wedi ei wneud i fywydau pobl gyffredin yn y wlad honno. Fedrwn ni ddim ond ategu yr apêl a wnaed gan swyddogion ein henwad ar i bob eglwys wneud ymdrech i ddangos y DVD – mae hi’n werth-chweil.

Dyma ddolenni i ddwy dudalen berthnasol oddi mewn i safwe EBCPWC.

http://www.ebcpcw.org.uk/cy/newyddion/newyddion121.htm

http://www.ebcpcw.org.uk/cy/cyhoeddiadau/goleuad/09-05-22.pdf


Llywydd newydd Cymdeithasfa’r Gogledd

Mai 21, 2009

Llywydd newydd

 

 

 

 

 

 

 

Nos Fawrth, Mai 19eg, mewn oedfa arbennig iawn a gynhaliwyd yng Nghapel Y Cysegr, Bethel, ger Caernarfon, derbyniodd ein hannwyl weinidog, y Barchedig Megan Williams lywyddiaeth Cymdeithasfa’r Gogledd am y flwyddyn 2009-2010. Yn y llun gwelir y Parchedig Brian Huw Jones, Ysgrifennydd y Gymdeithasfa yn ei llongyfarch y tu allan i’r capel yn dilyn yr oedfa.

Rydym ninnau yn Salem yn ei llongyfarch yn fawr ac yn dymuno pob bendith iddi wrth iddi ymgymryd a’r swydd bwysig hon.