Yn anffodus, oherwydd prinder plant a phobl ifanc daeth ein hysgol Sul i ben blwyddyn neu ddwy yn ôl. Ar un adeg roedd gennym nifer dda o blant a phobl ifanc ond wrth reswm, maent yn tyfu ac yn symud ymlaen, rhai i’r ysgol uwchradd, eraill i goleg neu brifysgol. Pe bai ambell riant awydd gwasanaethu fel athro byddem yn hynod falch o ail-sefydlu’r Ysgol Sul.
Mae’r paragraff isod yn amlinellu y drefn a fodolai cyn i’r Ysgol Sul ddod i ben.
Ceir dau ddosbarth Ysgol Sul yn Salem, un dosbarth ar gyfer plant hyd at saith oed a’r llall ar gyfer y plant dros saith oed. Daw y plant i gyd i’r capel ar gyfer rhan agoriadol yr Oedfa. Wedi emyn a darlleniad, ceir gair gan y pregethwr i’r plant. Yna, fe aiff un o ddisgyblion yr Ysgol Sul ymlaen i ledio’r emyn. Yn ystod yr emyn mae’r plant yn ymadael â’r Oedfa ac yn mynd i’r Festri ar gyfer eu gwers. Rhai blynyddoedd yn ôl gosodwyd carped clyd ar lawr y festri a phrynwyd dodrefn ac offer addas i greu amgylchfyd deniadol a dymunol ar gyfer y plant.
Mae’r athrawesau yn defnyddio’r gyfres “Golau ar y Gair” i gyflwyno gwersi i’r plant ac mae’n braf gweld y festri ar ei newydd wedd a’r plant wrth eu bodd yn eu cartref cysurus.
Rhai o blant yr Ysgol Sul
Swydd Ddisgrifiadau
Y mae Cymal 5/Atodiad 2 yn y ddogfen “Er Mwyn Ein Plant” yn datgan:
“Dylid rhoi gwybod i weithwyr gwirfoddol yn ysgrifenedig pa beth yw eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau: dros bwy y maent yn gyfrifol ac i bwy y maent yn atebol.”
Mewn ymdrech i gydymffurfio â’r gofyn hwn `rydym wedi llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y swyddi isod. Gallwch agor y dogfennau (Microsoft Word) trwy glicio ar y swyddi. Y mae croeso i chi eu haddasu at bwrpas eich eglwys, os ydych yn gweld gwerth iddynt.
Swydd Ddisgrifiad Athrawes Ysgol Sul